Kód: 42196201
Yn oes Fictoria, ystyriwyd menywod yn anaddas ac anabl ar gyfer pob arweinyddiaeth gyhoeddus a deallusol. Ond llwyddodd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (1839-1916) o Langrannog, i ennill parch ac enwogrwydd fel bardd, darlithydd, g ... celý popis
Velština
Nákupem získáte 52 bodů
Anotace knihy
Yn oes Fictoria, ystyriwyd menywod yn anaddas ac anabl ar gyfer pob arweinyddiaeth gyhoeddus a deallusol. Ond llwyddodd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (1839-1916) o Langrannog, i ennill parch ac enwogrwydd fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig, dirwestwraig - ac ysbrydolwraig to newydd o awduresau a merched cyhoeddus. Mae'r gyfrol hon yn dilyn ei thrywydd er mwyn deall pam a sut y cododd Cranogwen, benyw ddibriod o gefndir gwerinol, i'r fath fri a dylanwad ymhlith Cymry ei hoes. Teflir goleuni newydd hefyd ar ei bywyd carwriaethol cyfunrywiol, a'i syniadau arloesol ynghylch rhywedd.
Cyhoeddwyd cyfrolau bywgraffiadol ar Cranogwen ym 1932 a 1981, ond oddi ar hynny mae twf y mudiad ffeminyddol wedi ysgogi llawer astudiaeth (ar awduron benywaidd a lesbiaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er enghraifft, ac ar wragedd mewn cymunedau morwrol) sy'n berthnasol iawn i'w hanes. Yng ngoleuni'r holl ddeunydd ychwanegol hyn, ceir yn y gyfrol hon ddarlun newydd o'i bywyd a'i dylanwad.
Parametry knihy
Zařazení knihy Knihy v němčině Belletristik Zweisprachige Ausgaben
522 Kč
Velština
Osobní odběr Praha, Brno a 46835 dalších
Copyright ©2008-26 nejlevnejsi-knihy.cz Všechna práva vyhrazenaSoukromíCookies
Vrácení do měsíce
571 999 099 (8-15.30h)Nákupní košík ( prázdný )